
Dan Gysgod Rhyfel
gan Philip Michell, cyfieithwyd gan Dora Jones
Mae Dan Gysgod Rhyfel yn olrhain profiadau tri phlentyn a anfonwyd oddi cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r effaith a gafodd hynny ar eu bywydau. Trwy ddrama, cawn ein tywys yn ôl i’r cyfnod anodd hwnnw a phrofi’r chwalfa o fewn teuluoedd a chymdeithas.
Mae Theatr Gwent, Theatr Iolo a Theatr Spectacle mewn partneriaeth am y seithfed tro i gyflwyno cynhyrchiad i ysgolion Cymraeg eu cyfrwng led led de ddwyrain Cymru. Maent yn rhan o rwydwaith o wyth cwmni proffesiynol sy’n darparu theatr o safon uchel i ysgolion a chymunedau – sy’n greadigol, amrywiol a chyhwysol.
Cynhelir perfformiadau cyhoeddus yn Theatr Y Melville, Y Fenni - Nos Wener, Mehefin 18ed am 7.30 y.h. a Chanolfan Gelfyddydol Neuadd Llanofer, Caerdydd - Nos Iau, Mehefin 24ain am 7.00 y.h.
Cynllunwyd ar gyfer plant 9 – 11 oed.
Ar daith rhwng Mehefin 7ed a Gorffennaf 9ed 2010
Am ragor o wybodaeth cysyllter a Theatr Gwent
Ffôn: 01873 853167 - Ebost: gwenttie@uwclub.net - Gwefan: www.gwenttheatre.com
The play tells the stories of three children evacuated to Wales during the Second World War. The audience are taken back to that difficult time to experience the upheaval of families and communities. Suitable for family audience and Welsh learners.
| Perfformwyr: | Siwan Bowen Davies, Aled Herbert, Naomi Martell |
| Cyfarwyddwr: | Dora Jones |
| Cynllunydd: | Georgina Miles |
| Cerddoriaeth gan: | Chrys Blanchard |
Home - Top - Newsletter - Shows - Developments - Education - Contact
Theatr Iolo, The Old School Building, Cefn Road, Mynachdy, Cardiff, CF14 3HS
Website by Gerard KilBride-Theatr Iolo 2010