Sibrwd yn y Nos
Gan Noel Greig addasiad gan Siôn Eirian
Mae'n ddrama fywiog ddi-amser sy'n ymestyn dychymyg a galluoedd ieithyddol y gynulleidfa. Mae'n sôn am fan lle mae cewri'n rheoli, lle nad oes hawl gan neb i fynegi eu hunain trwy gân na stori, a lle mae pobl gyffredin bodoli dan gysgod a gormes.
"Ar ochr mynydd, rhywle yng Nghymru, mae Alff, Patshyn a Sosban yn adrodd eu straeon a chanu eu caneuon.......ond mae nhw'n byw yng nghysgod y cewri ac mae'r nos yn dod..............."Mae'r cynhyrchiad yn addas i flynyddoedd 2, 3, a 4, - oedran 6 -9.
Gwych oherwydd fod hiwmor, hapusrwydd a thristwch. Byddwn i’n hoffi gweld y sioe eto” Kate, Ysgol y Wern
“Roedd y sioe yn ddiddorol, doniol a gwych!” Sara, Ysgol y Wern“Diolch am y sioe, roedd y sioe yn dda iawn. Roeddwn i’n hoffi popeth.” Honor Broadstock, Bl 4, Ysgol Abercynon
“Fy hoff ran i oedd popeth, a’n hoff person i oedd pawb. Roedd o’n wych!!!” Kate Louise Pinnell, Bl 4, Ysgol Creigiau
“Rhaid i mi gweld e eto!” Teona, Ysgol y Wern
| Y CAST | Emyr John, Iwan Tudor, Nadine Beaton, Siân Alwen |
| Cyfarwyddwr | Erica Eirian |
| Cynllunydd | Holly McCarthy |
| Rheolwr Llwyfan | Sasha Dodd |
home - top - newsletter - shows - developments - education - contact
Theatr Iolo, The Old School Building, Cefn Road, Mynachdy, Cardiff, CF14 3HS